Yr Iaith Cymraeg o fewn meithrinfeydd a blynyddoedd cynnar 

Cefnogi ein haelodau er mwyn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg. 

Mae gan NDNA Cymru lawer o daflenni ffeithiau ac adnoddau i gefnogi gyda chyflwyno a defnyddio’r iaith Gymraeg yn eich sefydliad.  

Mae Tîm yr Iaith Gymraeg yn gallu cynnig cymorth 1 i 1, wyneb i wyneb, dros e-bost, neu ar alwad ffôn i gefnogi gyda Camau, Cwrs Cymraeg Gwaith perthnasol i’r sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Rydym yn hapus i ddarparu cefnogaeth bwrpasol i helpu chi a’ch tîm ar eich siwrne dysgu Cymraeg  

Mae gennym dudalen Facebook preifat lle rydym yn postio fideos wythnosol yn cynnwys caneuon, straeon a brawddeg yr wythnos. Mae yn wybodaeth am ddyddiadau pwysig yng Nghymru hefyd. Ymunwch a’r grŵp yma: NDNA Cymru: Dysgu Cymraeg   

Rydym hefyd yn dathlu  dyddiadau pwysig, trwy gynnal ‘Webinars’. Mae ‘webinars’ amser stori yn digwydd yn rheolaidd.   

Rydym yn gallu eich cefnogi i gyflawni’r Addewid Cymraeg sy’n eich helpu i weithio tuag at gyflawni’r Cynnig Gweithredol.

Pam Cymraeg?

Efo dros hanner miliwn o siaradwyr Gymraeg a miloedd o bobl yn dysgu, mae’r iaith Cymraeg yn gynnig mantais addysgol, ddiwylliannol a chyflogaeth i chi a’ch teulu.

Why Welsh video screen

Ffurflenni Damwain dwyieithog NDNA

Mae gan NDNA Cymru ffurflenni damwain dwyieithog sy’n hawdd i’w ddilyn ar gyfer siaradwyr Cymraeg a’r di-gymraeg. Cymerwch olwg ar y fideo byr hwn i weld pa mor hawdd ydyn nhw i’w ddefnyddio. Dilynwch y ddolen i brynu:

Ffurflenni Damwain Dwyieithog  

Chwarae Mentrus

Cymerwch olwg ar ba mor hawdd ydyn nhw i’w defnyddio yn y fideo byr hwn a dilynwch y ddolen i brynu. 

Cwrs Chwarae Mentrus 

Posteri Cymraeg 

Posteri Cymraeg

Camau cyrsiau Gwaith Cymraeg

 

Mae Camau yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hunan astudio, ar-lein sy’n bwrpasol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae. 

Mae ynacyrsiau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd ar gael er mwyn dewis y lefel sy’n addas i chi.  

Mwy o wybodaeth

Yr Addewid Cymraeg

Dathlwch yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymreig yn eich lleoliad.

Byddwch yn gallu dangos sut yr ydych yn gweithio tuag at y Cynnig Rhagweithiol, gan rannu’r Gwaith yn ddarnau bach haws.  

Gall y Cynnig Rhagweithiol a chyflwyno’r Gymraeg ymddangos fel proses frawychus ond mae’r Addewid Cymreig yn rhoi arweiniad cam wrth gam i’ch lleoliad i weithio tuag at hyn. 

Lawrlwythwch Daflen Ffaith Addewid Cymraeg am ddim. Lawrlwythwch Daflen Ffaith Cynnig Ragweithiol am ddim. 

Mwy o wybodaeth

Cymraeg 2050

Yn ystod haf 2017 lansiwyd Cymraeg 2050.

 

Mae’r gwaith yn parhau. Yn eu cynllun gweithredu diweddaraf, dywedodd Llywodraeth Cymru: 

“Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar rannau’r polisi Llywodraeth, gan roi sylw arbennig eleni i’r canlynol: 

  • Parhau i ganolbwyntio ar drosglwyddo’r Gymraeg i mewn i’r cartref a sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar a’r Cynnig Gofal Plant. 
  • Datblygu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig ym myd addysg a’r blynyddoedd cynnar”. 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu partneriaid NDNA Cymru a CWLWM i gefnogi gweithlu’r blynyddoedd cynnar gyda’r Gymraeg, yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n cychwyn ar gyrsiau Camau. Mae Camau yn cynnig cyrsiau Cymraeg Gwaith penodol ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae. 

Gallwch ddarllen cynllun gweithredu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 yma 

Strategaeth a chynlluniau iaith Gymraeg 

Cymraeg 2050: cynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg 2023 i 2024 

Cymraeg 2050: cynllun gweithredu strategaeth y Gymraeg 2022 i 2023 

 

Mwy o Wybodaeth 

Fideos a chyfieithiadau'r iaith Cymraeg 

Mae gan NDNA rhagor o fideos yr iaith Cymraeg i’ch cefnogi. 

 

 Dyma nifer o fideos sy’n cynnwys cyfieithiadau syml fydd yn helpu staff i ddefnyddio’r iaith Gymraeg gyda chydweithwyr, defnyddwyr y gwasanaeth a sefydliadau arall, efo fideos o ganeuon, straeon, a gweithgareddau gall cael ei ddefnyddio gyda phlant y sefydliad.  

 

Mwy o Wybodaeth 

Adnoddau’r iaith Gymraeg 

Mae gan NDNA Cymru gwledd o adnoddau Cymraeg i’ch cefnogi. 

 

Ewch draw i siop NDNA Cymru am daflenni gwybodaeth dwyieithog am ddim ac am polisiau a gweithdrefnau dwyieithog hefyd. 

Ebostiwch [email protected]k am linc i ymuno gyda unrhyw gweminar. 

 

Cyfleoedd Hyfforddi 

Os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch, cysylltwch â thîm NDNA Cymru: 

Gall aeloadau NDNA Cymru hefyd gysylltu â thîm Datblygu’r Gymraeg NDNA ar gyfer ymholiadau penodol neu gymorth drwy; 

  • Ffôn – 01824 707823 
  • E-bost – [email protected] 
  • Sesiynau arddangos / Sesiynau un i un – E-bostiwch ni ar y cyfeiriad uchod i archebu amser sydd fwyaf addas i chi.