View this page in English

Ffeindiwch allan popeth rydych angen gwybod am fod yn sefydliad lleoliad gwaith i brosiect gwaith gofal plant NDNA Cymru a’r manteision i chi’n cael cyfranogwr.

Os ydych yn sefydliad lleoliad gwaith i brosiect gwaith gofal plant NDNA Cymru, byddwch yn cefnogi’r gweithle gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru trwy alluogi unigolion i dderbyn profiad yn y sector i fynd mewn i gyflogaeth yn y dyfodol.

Mae llawer o’r meithrinfeydd sydd wedi cynnig lleoliad gwaith yn y gorffennol i gynorthwyydd feithrinfa dan hyfforddiant, wedi cyflogi’r cyfranogwyr ar gontract parhaol.

Gwasgwch ar y linc i ddarllen ein datganiad i’r wasg.

Sut mae’r prosiect yn gweithio?

Unwaith mae cyllid am y prosiect wedi’i sicrhawyd, mae NDNA Cymru yn ffeindio cyfranogwyr o awdurdodau lleol penodol ar draws Cymru.

Bydd sefydliadau sydd yn cefnogi’r prosiect yn darparu sefydliad lleoliad gwaith i gynorthwyydd feithrinfa dan hyfforddiant am 12 wythnos i weithio 16 awr yr wythnos.

Mae cyfranogwyr yn derbyn cymorth dros 16 wythnos gan gynnwys:
• Lleoliad gwaith mewn sefydliad am 12 wythnos, talwyd (gan NDNA Cymru)
• Cymorth ac arweiniad parhaol trwy gydol ei lleoliad o NDNA Cymru.
• Hyfforddiant talwyd gan NDNA Cymru am bedwar wythnos.

Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i’r sefydliadau wneud ei gweithle yn fwy amrywiol- Mae cyfranogwyr yn dod o gefndiroedd gwahanol a lefel o brofiad gwahanol.

Bydd yn cefnogi gyda recriwtiaid, yn rhoi cyfle i sefydliadau wedi cynorthwyydd feithrinfa dan hyfforddiant yn gweithio gyda’r plant a staff dros gyfnod o dair fis.

Ble bydd yn cymryd lle?

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan lywodraeth y DU trwy gronfa ffyniant cyffredin y DU i ddarparu yng Nghonwy a Sir Benfro.

Pryd bydd yn cymryd lle?

Fydd NDNA yn darparu dwy garfan yng Nghonwy, yr un cyntaf yn cychwyn ar yr 22ain o Ionawr 2024 ac yr ail ar y 3ydd o Fehefin 2024.

Byddwn hefyd yn darparu dwy garfan yn Sir Benfro, y gyntaf yn Hwlffordd yn cychwyn ar 24ain o Ebrill a’r ail yn Aberdaugleddau ar y 23ain o Orffennaf 2024.

Hyfforddiant

Wrth fod ar leoliad gwaith, mae’r cynorthwyr meithrinfa dan hyfforddiant yn derbyn hyfforddiant o NDNA wrth law a hyfforddiant yn y gweithle gofal plant.
Mae’r hyfforddiant dros bedwar wythnos ac yn cynnwys yr holl hyfforddiant gofynnol, fel diogelu plant a chymorth cyntaf i blant, mae hefyd sesiynau penodol i ofal plant a’r blynyddoedd cynnar.. Fydd cyfranogwyr wedi’i derbyn gwiriad GGD gan NDNA Cymru cyn gallu cychwyn yn y sefydliad.

Os yw chyfranogwyr yn Newydd i’r sector gofal plant, blynyddoedd cynnar neu sector chwarae, byddant yn derbyn y sgiliau a’r wybodaeth i allu dechrau yn ei lleoliad gwaith.

Oes unrhyw meini prawf i fod yn sefydliad lleoliad gwaith?

Mae rhaid i sefydliad gallu darparu 16 awr yr wythnos am 12 wythnos.

Morgan, placement student, Conwy and Denbighshire
Morgan, lleoliad myfyrwyr, Conwy a Sir Ddinbych

Tystebau ac astudiaethau achos Gwaith Gofal Plant

Dyfyniad cynorthwyydd meithrin dan hyfforddiant:

“Mae lleoliad gwaith wedi bod yn ffantastig. Dwi wedi caru cwrdd â sut gymaint o blant Newydd, I gyd gyda phersonoliaethau gwahanol. Mae’r staff a’r plant wedi bod yn groesawgar, wedi rhoi hyder i mi ac yn bwysicaf hunan-cred. Ges i fy ngofyn a hoffwn fod yn rhan o’r tîm. Ar ddechrau’r cwrs yma, byddai byth wedi dychmygu byddaf yn gorffen gyda’r swydd breuddwydiaf am mewn meithrinfa fendigedig gyda staff a phlant hyfryd. Dwi’n gwerthfawrogi fod yn rhan o raglen NDNA.”

– Cyfranogwr Abertawe

“Roedd y cwrs yn dda iawn fel cyflwyniad i ofal plant ac yn helpu cael mynediad i’r gweithle. Roedd cydbwysedd da rhwng theori ac ymarferol ac roedd y theori gychwynnol yn ddefnyddiol iawn. Roedd y modiwlau cwblheais i i baratoi ar gyfer lleoliad gwaith  wedi fy helpu paratoi am waith ac adeiladu hyder. Roedd y gefnogaeth gan diwtor y cwrs trwy gydol y cwrs ac yn cynorthwyo i ffeindio sefydliad addas ac wedyn gwaith yn fendigedig, amhrisiadwy ac yn wobrwyol gan ei bod wedi arwain mi i ffeindio swydd yn sefydliad gofal plant.”

– Cyfranogwr Conwy

Dyfyniad sefydiad lleoliad gwaith:

“Roedden yn hapus iawn i gael ein gofyn i gymryd rhan yn gynllun NDNA, mae’n ffordd wych o gefnogi pobl ar ei daith i weithio yn ofal plant. Mae gwastad wedi bod yn brofiad hawdd a phositif i ni a bydden bendant yn parhau gyda’r rhaglen. Rydym yn falch iawn i gael cyfranogwyr wnaeth dangos i fod yn hoffus ac yn werthfawr gyda staff a phlant, wnaethon ni cynnig swydd barhaol iddyn nhw.”

– Sefydliad yn Abertawe

“Byddaf bendant yn argymell gweithio gyda phrosiect gwaith gofal plant, roedd ganddyn nhw gyfathrebiad rhagorol yn wythnosol yn ofyn cwestiynau am yr unigolyn dan hyfforddiant ac os oedden nhw’n cwrdd ag gofynion y feithrinfa. Roedd yr holl wybodaeth am yr unigolyn wedi cael ei anfon yn gynnar cyn dechrau ar roedden yn ymwybodol os bydden nhw’n absennol. Rydym wir wedi mwynhau gweithio gyda phrosiect gwaith gofal plant.”

– Sefydliad yn Rhondda Cynon Taff

I gael gwybod mwy:

E-bostiwch: [email protected] neu ffoniwch: 01824 707823

childcare works wales