Cynnig Gofal Plant Cymru

Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

Cynnig Gofal Plant Cymru
Fel y gwyddoch, mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru yn agor i rieni fis Tachwedd eleni! Bydd hyn yn galluogi pob rhiant a darparwr gofal plant i ddefnyddio un gwasanaeth unigol i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant. Yn ogystal â sicrhau cysondeb ym mhrofiadau rhieni ledled Cymru, gallai gynnig gwelliant sylweddol i brofiad darparwyr gofal plant sy’n darparu gofal wedi’i ariannu gan y Cynnig Gofal Plant.

Bydd angen i ddarparwyr sydd am ddechrau neu barhau i ddarparu’r Cynnig Gofal Plant gofrestru ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol erbyn 31 Hydref. Bydd eich tîm Awdurdod Lleol yn rhoi gwybod i chi pryd y gall darparwyr yn eich ardal chi ddechrau cofrestru.

Dyddiadau pwysig:

31 Hydref 2022: Bydd angen i bob darparwr ledled Cymru sydd am ddarparu’r Cynnig fod wedi cofrestru ar wasanaeth digidol cenedlaethol newydd y Cynnig Gofal Plant.

7 Tachwedd 2022: Bydd rhieni sy’n gwneud cais am ofal plant wedi’i ariannu o fis Ionawr 2023 yn dechrau cyflwyno ceisiadau drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Ionawr 2023: Rhieni’n dechrau derbyn eu horiau gofal plant wedi’u hariannu a darparwyr yn dechrau hawlio taliadau drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyfres o ddigwyddiadau rhithiol i roi hyfforddiant ar y gwasanaeth newydd. Roedd y cyntaf o’r rhain ar sut i gofrestru lleoliad ac ymuno â lleoliad presennol. Bydd rhagor o ddigwyddiadau byw yn ymdrin â sut i gadarnhau cytundebau gyda rhieni a sut i hawlio taliadau. Bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod mis Hydref a Rhagfyr yn eu tro. Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau byw, a sesiynau wedi’u recordio ar gyfer unrhyw ddarparwyr sy’n methu bod yn bresennol yn y sesiynau byw, ar gael ar Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

Ar gyfer unrhyw ddarparwyr nad ydynt yn ddigon hyderus i ddefnyddio gwasanaethau digidol, mae sesiynau hyfforddi a recordiwyd ymlaen llaw ar gael yn Sgiliau Digidol Hanfodol ar gyfer darparwyr gofal plant (llyw.cymru).

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd i’w weld yma Cynnig Gofal Plant Cymru: Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol

 

Childcare Offer for Wales: National Digital Service

Childcare Offer for Wales

As you may be aware, the Childcare Offer for Wales new national digital service is opening to parents this November! This will enable every parent and childcare provider to use one single service to access the Childcare Offer for Wales. Not only will this bring consistency of experience for parents across Wales, it could significantly improve the experience of childcare providers delivering care funded by the Childcare Offer.

Providers who wish to deliver the Childcare Offer for Wales or want to continue to deliver the Offer will need to register on the national digital service by 31 October. Your Local Authority team will let you know when providers in your area can begin registering.

Key Dates:

31 October 2022: All providers across Wales who want to provide the Offer will need to have registered on the new Childcare Offer for Wales national digital service

7 November 2022: Parents applying for funded childcare from January 2023 will begin applying via the national digital service

January 2023: Parents begin receiving their funded childcare hours and providers begin claiming for payment through the national digital service

Welsh Government is providing a series of virtual Live Events to deliver training on the new service. The first of these was on how to register a setting and join an existing setting. Further Live events will cover how to confirm agreements with parents and how to claim payments. These will take place during October and December respectively. Further information on Live Events including recorded sessions for any providers who are unable to attend any of these sessions can be found at Childcare Offer for Wales: National Digital Service | GOV.WALES

For any providers who are not as confident using digital services, pre-recorded training sessions are available at Essential Digital Skills for Childcare providers (gov.wales)

Further information on the new national digital service can be found here Childcare Offer for Wales: National Digital Service | GOV.WALES

 

Similar Articles

Scotland’s Childcare Guarantee calls for expanded funded hours

Image credits: Chris Watt Photography Pregnant Then Screwed Scotland has launched a new campaign: Scotland’s…
Read more
pregnant then screwed

Olivia Bailey appointed as new education minister

Olivia Bailey, MP for Reading West and Mid Berkshire, has today been appointed as the…
Read more
Olivia Bailey