Gweinidog yn croesawu achrediad Millie Marc i Gymru
Ymwelodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol â’r feithrinfa gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad Millie Marc , gyda’r gobaith y bydd mwy o leoliadau yng Nghymru yn ystyried gweithio tuag at yr achrediad gwerthfawr hwn.
Millie Marc yw’r safon aur mewn cymorth cyntaf pediatrig ar gyfer darparwyr gofal plant. Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Millie i sicrhau bod Marc Millie yn cyd-fynd â Safonau Gofynnol Cenedlaethol Cymru a’i fod ar gael i bob lleoliad blynyddoedd cynnar ledled y wlad.
Roedd staff a phlant Meithrinfa Toadhall Montessori yn falch iawn o groesawu a dathlu gyda Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Dan Thompson o Ymddiriedolaeth Millie a Purnima Tanuku OBE o’r NDNA sy’n gweinyddu Millie Marc ar ran Ymddiriedolaeth Millie.
Mae Millie Marc yn eiddo i elusen cymorth cyntaf Ymddiriedolaeth Millie ac wedi’i henwi ar ôl Millie Thompson a fu farw yn dilyn digwyddiad mewn meithrinfa. Mae’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Gymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) sef yr elusen blynyddoedd cynnar fwyaf, sy’n cefnogi meithrinfeydd ar draws y DU.
Meddai Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol; “Rwy’n falch o groesawu achrediad Millie Marc i Gymru. Mae’r achrediad yn rhoi hyder ychwanegol i rieni a gofalwyr bod lleoliadau, yn ogystal â chyfarfod gofynion cymorth cyntaf y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio, yn mynd y filltir ychwanegol drwy sicrhau bod holl staff y lleoliad wedi eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf pediatrig, gan gadw plant yn ddiogel a lleihau damweiniau a risgiau.
Rwy’n gobeithio bydd mwy o leoliadau yng Nghymru yn ystyried gweithio tuag at achrediad Millie Marc a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r rhai rwyf wedi eu cyfarfod heddiw, oedd yn greiddiol i ddod a Millie Marc i Gymru.”
Meddai Joanne a Dan Thompson, rhieni Millie, wnaeth sefydlu Ymddiriedolaeth Millie:
“Rydym mor falch bod Millie Marc wedi ei lawnsio yn Nghymru, ac mai gwaddol ein merch yw ei fod yn cadw plant yn fwy diogel. Mae hyn yn anrhydedd gwirioneddol i ni fel teulu. Rydym yn ymdrechu i gadw diogelwch plant ar flaen meddwl pob gofalwr ac mae Millie Marc yn caniatáu i’r safon hon gael ei chynnal yn gyson.”
Cafodd peilot Millie Marc ei gynnal yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y broses yn addas, gyda’r prif ddogfennau yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg. Mae Millie Marc yn cyfarfod ac yn mynd tu hwnt i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac mae wedi ei cael ei lunio ochr yn ochr â’r gofynion statudol.
Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwraig Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA) Cymru: “Rydym wrth ein boddau bod Marc Millie ar gael ar draws Cymru ac rydym yn llongyfarch Meithrinfa Toadhall Montessori ar fod y feithrinfa gyntaf yn y wlad i dderbyn yr achrediad.”
“Mae Millie Marc yn dystiolaeth o gyflawniad eithriadol ar gyfer lleoliad gofal plant gan ei fod yn dangos bod y lleoliad yn mynd y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol o ran cadw plant yn ddiogel. Mae Millie Marc yn rhoi sicrwydd i rieni bod yr holl ymarferwyr gofal plant ym meithrinfa eu plentyn wedi’u hyfforddi mewn cymorth cyntaf pediatrig a’u bod yn gymwys ac yn barod i roi cymorth brys os oes angen”.
“Er mwyn sicrhau’r achrediad, rhaid i leoliadau roi pwyslais ar hyfforddiant a hyder staff. Rhaid iddynt hefyd ddangos sut maent am sicrhau bod gwybodaeth staff yn aros yn fyw yn y cof ac yn gyfredol.”
“Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio yn galed i sicrhau bod yr achrediad yn cwrdd a gofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio ac rydym yn edrych ymlaen i wobrwyo llawer mwy o leoliadau gofal plant ar draws y wlad.”
Wrth sôn am ennill Millie Marc, dywedodd Sandy Clayton o Feithrinfa Toadhall Montessori:
“Rydym mor falch ac wrth ein bodd mai ni yw’r lleoliad gofal plant cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr Millie Marc.
“Rydym bob amser wedi sicrhau bod yr holl staff yn cael yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr bob tair blynedd, ond roeddwn i’n teimlo bod angen llawer o gyfleoedd ymarferol ar staff i wybod yn union beth i’w wneud mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd meddygol ac argyfyngau o fewn cyd-destun eu harferion dyddiol ac amgylcheddau gwahanol.”
“Roedd Millie Marc yn broses achredu berffaith i alluogi hyn, gan danlinellu pwysigrwydd Cymorth Cyntaf Pediatrig a chadw pob plentyn yn ddiogel. Mae fy staff wedi gweithio’n galed i wella eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau ymarferol yn ystod y broses achredu, ac maent bellach yn teimlo’n llawer mwy hyderus a chymwys i ymdrin ag argyfwng, pe bai’n codi.
“Mae achrediad Millie Marc yn broses barhaus, ac rydym yn deall pwysigrwydd monitro ein perfformiad a’n harferion Cymorth Cyntaf Pediatrig yn gyson, er mwyn sicrhau bod ein dealltwriaeth, ein gwybodaeth a’n sgiliau yn cael eu cynnal a’u gwella.”
“Mae ein rhieni’n teimlo mwy o sicrwydd a thawelwch meddwl, gan wybod ein bod wedi ennill Millie Marc a bod yr holl staff sy’n gofalu am eu plant yn gallu delio ag argyfwng.”
Os am wybod mwy, ewch i:
- Wales