
Camau yw cwrs iaith Gymraeg sydd yn bwrpasol i’r sector blynyddoedd cynnar,gofal plant a gwaith chawarae a ddyfeisiwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y sector.
Mae yna 3 lefel i’r cwrs hunan astudiaeth, ar-lein yma yn cychwyn gyda Mynediad. Fe fyddwch yn dysgu Cymraeg sylfaenol fel lliwiau, rhifau, ynganiad a chyfarchion. Byddwch yn dechrau trafod diwrnodau’r wythnos yn Gymraeg, y tywydd, yr amser a theimladau. Ar ddiwedd lefel Mynediad cewch tystysgrif a byddwch yn barod i symud ymlaen i’r lefel Sylfaen.
Ar y lefel yma byddwch yn trafod y presennol, gorffennol a’r dyfodol, gofyn cwestiynau a thrafod pethau fel gofalu am anifeiliad anwes. Gallwch symud ymlaen i lefel Canolradd ble cewch gweithgareddau i ymarfer a chodi hyder.
Ar wefan Dysgu Cymraeg os ydych yn dewis “Cymraeg Gwaith” ar y ddewislen ar ben y dudalen, dyma bydd yr holl wybodaeth sydd angen. Gallwch wedyn penderfynnu pa lefel sy’n addas i chi. Mae’r linc i gychwyn y cwrs ar gael trwy ebostio [email protected] i sicrhau bod eich cwrs wedi mapio’n gywir ac eich bod yn cael y cefnogaeth cywir, am ddim, gan dîm yr Iaith Gymraeg yn NDNA Cymru.
Byddwch yn derbyn tystysgrif cyrhaeddiad ar diwedd bob un o’r 3 lefel.
Cefnogaeth gan NDNA Cymru
Mae NDNA Cymru yn gallu arddangos Camau i’r sefydliad i roi fwy o wybodaeth i chi am beth allech chi ddysgu, sut i gael mynediad i’r cwrs, ble gallech ffeindio adnoddau i gefnogi chi, i drafod gwybodaeth allweddol fel hyd y cwrs a hefyd sut mae’r cwrs yn edrych.
Mae gan NDNA Cymru llawer o daflenni wybodaeth ac adnoddau er mwyn gwreiddio’r r iaith yn y sefydliad ar ôl cwblhau Camau. Rydyn ni’n gallu rhoi cymorth 1 i 1, wyneb i wyneb, dros y wê, fel galwad ffôn a trwy e-bost os ydych angen cymorth gyda’r cwrs neu sut i weithredu’r iaith yn y sefydliad.
Darllenwch am siwrne rhai dysgwyr Camau yma.
Find out more about what each Camau unit includes:
Mynediad
Mynediad includes the subjects listed below:
- Deall ymadroddion dydd i ddydd syml a’u defnyddio mewn lleoliad gofal plant
- Trafod dyddiau’r wythnos a’r tywydd
- Rhoi gorchmynion uniongyrchol a chyfarwyddiadau syml
- Trafod teimladau a dymuniadau
- Trafod hoffterau a chas bethau, gan roi rhesymau
- Cyfri a defnyddio rhifau
- Trafod lliwiau a siapiau
- Trafod digwyddiadau yn y gorffennol
- Trafod amser
- Trafod digwyddiadau’r dyfodol.
Sylfaen
Sylfaen includes the subjects listed below:
- Trafod y tywydd yn y presennol, y gorffennol a’r dyfodol
- Gofyn ac ateb cwestiynau am natur a chwarae yn yr awyr agored
- Trafod gofalu am anifeiliaid anwes ac anifeiliaid
- Gofyn ac ateb cwestiynau am deithio
- Trafod bwyd a diod
- Gofyn ac ateb cwestiynau am hoff bethau
- Trafod ble rydych chi ac eraill yn mynd
- Rhoi gorchmynion
- Cymharu pobl a gwrthrychau
- Newid y pwyslais mewn brawddegau syml.
Canolradd
Canolradd includes the subjects listed below:
- Rhoi cyfarwyddiadau sy’n berthnasol i arferion bob dydd mewn lleoliad gofal plant
- Disgrifio gweithredoedd a theimladau
- Trafod chwarae gyda thywod a dŵr
- Trafod yr amgylchoedd
- Trafod gwrthrychau (e.e., teganau) yn ystod amser chwarae
- Trafod gwneud lluniau a phaentio
- Rhoi cyngor, gan ddefnyddio ‘dylai’
- Mynegi barn a rhoi rhesymau
- Pwysleisio gwybodaeth
- Trafod pethau sydd wedi digwydd i ni.